Thursday 31 May 2012

Eisteddfod Yr Urdd...Bwyd i’r teulu cyfan.


Fron Goch Garden Centre

31/5/2012

The Urdd Eisteddfod......Food For All The Family

Main Content
- Fresh homemade breakfast, lunch & dinner.
- Free parking. Child friendly.
- Just 5 miles from Y Maes.
-Open 9.30am to 7.30pm
Mon-Fri Eisteddfod week.
Full menu & directions at:

Open as Usual Bank Holiday Weekend & Half Term Week

Main Content Inline Small
For full details on opening hours click here

 

Afternoon Tea....

Main Content Inline Small
Afternoon Tea
Tea of Two..... What a Treat
Afternoon Tea for Two is served from 3pm to 4.30pm Monday to Saturday. A real treat!
This includes sandwiches and our special homemade cream cakes. You won't need to make supper after this!

Fron Goch Garden Centre
Tel: 01286 672 212,
Address: Pant Road, Llanfaglan, Caernarfon, Gwynedd, Wales, LL54 5RL
Canolfan Gerddi Fron Goch

31/5/2012

Eisteddfod Yr Urdd...Bwyd i’r teulu cyfan.

Main Content Inline Small
Bwyd i’r teulu cyfan...- Brecwast, cinio a swper cartref, ffres.
- Parcio am ddim. Croeso i blant.
- Dim ond 5 milltir o’r Maes.
- Ar agor 9.30am tan 7.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener wythnos yr Eisteddfod.
 
Bwydlen a chyfarwyddiadau llawn ar http://www.frongoch-gardencentre.co.uk/

Bydd Te Bach Pnawn

Main Content Inline Small
Bydd Te Bach Pnawn i Ddau yn cael ei weini o 3pm to 4.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn. Pleser pur!
Brechdanau a’n cacenni hufen cartref arbennig. Fydd dim rhaid i chi wneud swper ar ôl hyn!

Friday 11 May 2012

Ein Hagwedd at Goginio


Ein Hagwedd at Goginio
 
Yma yn Fron Goch, ein siop Goffi a Bwyty yw’r lle perffaith i gyfarfod â theulu a ffrindiau. Cewch le cyfforddus i ymlacio a mwynhau’ch hunan a chewch wledd gyda rhai o’n prydau a’n teisennau cartref.
 
Mae pob un o’n prydau’n cael ei goginio yma yn ein ceginau’n hunain.  Rydyn ni’n cael ein cig a’n llysiau gan gyflenwyr lleol, pobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw.  Felly, er enghraifft daw ein Twrci, Porc a Chig Eidion oddi wrth ein cigydd lleol yng Nghaernarfon, o stoc sy’n cael ei fagu yng Ngwynedd yn unig. Mae’r rhan fwyaf o’n teisennau’n cael eu crasu yma, yn ein ceginau - dyna pam eu bod nhw mor ffres a blasus. Mae sgons yn cael eu crasu’n ffres gydol y dydd ac yn aml, maen nhw’n dal yn gynnes wrth i ni eu gweini.
 

Mae brecwast o 9.30am tan 11.15am o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 10am tan 11.15am ar ddydd Sul.
 
Bydd cawl cartref, tatws pob, paninis a brechdannau ar gael bob dydd o tua 11.30am tan 3pm yn dibynnu ar y galw.
 
Cewch giniawau poeth bob dydd o 11.45am tan 2.30pm (heblaw ddydd Iau a dydd Sul pan fyddwn yn cynnig ein carferi enwog) ac fel arfer mae yna dri dewis o fwyd llysieuol.
 
Mae’r bar Salad yn berffaith am ginio ysgafn ac iach. Mae’n llawn o bob math o ddewisiadau wedi’u paratoi’n ffres gan gynnwys ein tartenni sawrus cartref. Ar gael fel arfer o 11am tan tua at 4pm.
 
Mae’n carferi rhost enwog yn cael ei weini ar ddydd Iau a dydd Sul o 11.45am tan tua 2.30pm.
 
Beth am De Prynhawn i ddau o 3pm tan 4.30pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn? Gwledd! Mae’n cynnwys ein brechdannau a’n teiennau hufen cartref arbennig ni. Fyddwch chi ddim angen gwneud swper ar ôl hynny!
 
Mae Panninis wedi’u tostio ar gael o tua 11am i 4.30pm pob dydd.
 
Mae gennym ddigonedd o le i eistedd gydag adnoddau ardderchog i blant, pobl gydag anabledd ac ymwelwyr hŷn. Mwynhewch ein cornel y plant, os byddwch yn lwcus, mi fyddan nhw’n diddori'u hunain wrth i chi gael cinio. Neu swatiwch yn ein man clud mewn cadair ger y tân, perffaith pan fydd yn rhaid i chi fynd allan ar ddiwrnod gwlyb. Dydyn ni ddim yn cymryd archebion, fel arfer mae yma ddigonedd o le ond dewch yn gynnar ar ddyddiau prysur megis gwyliau a Sul y Mamau.